Adroddiad Blynyddol

Urdd Gobaith Cymru
2013-2014

Adran 1

Y Diweddaraf gan y Prif Weithredwr

Efa Gruffudd Jones


Gair gan y Cadeirydd

Tudur Dylan Jones


Blwyddyn y Llywydd

Prysor Williams

Adran 2

Gwersyll yr Urdd Caerdydd

Urddspeech.png

Beau Davies a Rhian Dawes 

  • Dros 11,000 wedi aros a 15,000 wedi ymweld â’r Gwersyll.
  • Cwrs Haf Trwy’r Lens, mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a Media4Schools, wedi’i gynnal dan arweiniad Osian Williams, enillodd BAFTA Cymru. Crëwyd 12 ffilm newydd sbon gan y plant yn ystod y cwrs.
  • Buddsoddi cyfalaf sylweddol o fewn y Gwersyll er mwyn gallu cynnig cyfleusterau o’r safon uchaf.  Y gwelliannau yn cynnwys cawodydd, dodrefn a charpedi newydd ac offer technegol.
  • Rhaglen gyffrous o weithgareddau wedi’i lansio yn yr Eisteddfod i ddathlu pen-blwydd y Gwersyll yn 10 oed dros y flwyddyn nesaf.

Timothy Edwards

Cyfarwyddwr


029 2063 5678

caerdydd@urdd.org


Yr Eisteddfod a’r Celfyddydau

Urddspeech.png

Charlie Lovell-Jones

  • Cynhaliwyd Eisteddfod lwyddiannus ym Meirionnydd ar gaeau Rhiwlas ger tref y Bala a chafwyd cefnogaeth arbennig gan drigolion y sir.
  • Cyflwynwyd yn genedlaethol system gofrestru ar-lein a chofrestrwyd dros 48,000 o gystadleuwyr mewn 200 o gystadlaethau llwyfan.
  • Datblygwyd ymhellach yr wybodaeth ar Ap yr Eisteddfod, a chafwyd adborth da iawn.
  • Cafwyd diwedd ar brosiect dwy flynedd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd gyda pherfformiadau gwefreiddiol yn y Pier Pressure yn Aberystwyth.

Aled Siôn

Cyfarwyddwr


01678 541 014

eisteddfod@urdd.org


Gweithgareddau Cymunedol

Urddspeech.png

Tom Salmon a Tom Evans 

  • Dros 200 o achrediadau a hyfforddiant mewn meysydd megis gwirfoddoli cymunedol a threfnu digwyddiadau wedi’u cynnig i bobl ifanc er mwyn datblygu arweinwyr y dyfodol.
  • Cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli gyda’r Urdd wedi cynyddu.
  • Prosiectau ieuenctid ac ail-iaith cenedlaethol wedi llwyddo i ehangu darpariaeth yr Urdd yn ystod y flwyddyn.
  • Fforwm Ieuenctid yr Urdd, Bwrdd Syr IfanC, wedi cael cyfle i drafod y Gymraeg a bywydau pobl ifanc gyda’r Comisiynydd Iaith, Meri Huws a gwleidyddion yn ystod y flwyddyn.
  • Dros 500 o bobl ifanc wedi teithio dramor gyda’r Urdd i wledydd megis Ffrainc, Patagonia a Catalunya.
  • Cannoedd yn parhau i gymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau chwaraeon yn y Cylchoedd a’r Rhanbarthau.

Siân Rogers

Cyfarwyddwr


01678 541 030

sianrogers@urdd.org

Dai Bryer

Cyfarwyddwr


01678 541 014

daibryer@urdd.org


Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Urddspeech.png

Georgia Davies 

  • Gwelwyd y nifer uchaf erioed o wersyllwyr yng Nglan-llyn ym mlwyddyn ariannol 2013-2014, a’r lefelau incwm uchaf erioed. Mae hyn wedi arwain at sicrhau cyflogaeth i dros 60 person ar y safle ac wedi rhoi’r hyder i ni symud ymlaen gyda chynlluniau datblygu pellach ar gyfer y Gwersyll.
  • Y gwaith adnewyddu ar Blas Glan-llyn wedi’i gwblhau – mae’r Plas bellach yn cynnwys 18 ystafell wely, parlwr i arweinyddion cyrsiau a lolfa’r Neuadd Wen i’r gwersyllwyr. Cafodd y Plas ei agor yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar 29 Mai 2014.
  • Gwasanaeth Awyr Agored Glan-llyn, sef gwasanaeth sy’n darparu profiadau a gweithgareddau awyr agored oddi ar safle Glan-llyn, yn mynd o nerth i nerth, gyda galw am y gwasanaeth ledled Cymru.

Huw Antur Edwards

Cyfarwyddwr


01678 541 000

glan-llyn@urdd.org


Cyfathrebu a Datblygu

Urddspeech.png

Mari, Elen, Alun a Richard

  • Lansio ap newydd ‘Fy Ardal’ sy’n caniatáu plant, pobl ifanc a rhieni i chwilio am weithgareddau cyfrwng Cymraeg o fewn eu hardal.  Mae dros 4,000 o weithgareddau wedi ymddangos ar yr ap ac mae’n parhau i fod yn adnodd defnyddiol.
  • 51,630 wedi ymaelodi â'r Urdd.
  • Pentre Mistar Urdd wedi bod yn fwrlwm o weithgareddau ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Meirionnydd - o greu wal graffiti i berfformiadau gan fandiau a gweithdai cerddoriaeth.
  • Crëwyd ‘Ap Cip’ fel rhan o Ap Cylchgronau Cymru, sef prosiect peilot gan Gyngor Llyfrau Cymru.
  • Ap yr Eisteddfod yn boblogaidd am yr ail flwyddyn yn olynnol, gyda 20,000 wedi’i lawrlwytho.

Mali Thomas

Cyfarwyddwr


029 2063 5695

mali@urdd.org


Gwersyll yr Urdd Llangrannog

Urddspeech.png

Llangrannog – Ysgol Gilfach Fargoed a Ysgol Gyfun Emlyn

  • Blwyddyn ariannol 2013-2014 yr un orau erioed.
  • Agorwyd bloc cysgu newydd – Neuadd Eleanor – ac erbyn hyn mae dros 500 o welyau yn y Gwersyll.
  • Y Swyddog Cynaliadwyedd, benodwyd gyda chymorth ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Twf Mentrau Cymdeithasol Ceredigion, wedi adeiladu tŷ crwn ar dir y Gwersyll ac yn parhau gyda’r gwaith o leihau ôl-troed carbon y Gwersyll.
  • Gosodwyd system ynni solar 50kva ar do’r ganolfan hamdden.
  • Cafodd hen floc cysgu y Gelli ei ddymchwel ac mae ardal gymdeithasu wedi’i chreu yn ei le.

Steffan Jenkins

Cyfarwyddwr


01239 652 140

llangrannog@urdd.org


Chwaraeon

Urddspeech.png

Gwion Thomas

  • Dros 1,000 o bobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant chwaraeon eleni.
  • 180 o glybiau chwaraeon wedi’u sefydlu ar draws Cymru.
  • Dros 40,000 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yng nghystadlaethau chwaraeon yr Urdd.
  • 60% o’r plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r clybiau yn ferched.
  • 20 aelod o staff yn yr Adran Chwaraeon.
  • Mae’r adran wedi’i enwebu fel Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth y Flwyddyn.

Gary Lewis

Cyfarwyddwr


029 2063 5686

gary@urdd.org


Eleni...

thisyear-welsh.png

 

Adran 3

Adroddiad y Trysorydd

Rwyf yn hynod o falch o fedru adrodd fod canlyniadau ariannol 2013-14 yn bositif ac yn dangos gweddill iach am y cyfnod. Fel y gwelwch o’r adroddiad hwn fe fu bwrlwm o weithgaredd eto eleni ac awdurdodwyd gwariant o ychydig dan £9m. Mae lefel gwariant o’r fath yma yn bosib oherwydd llwyddiant ein swyddogion yn denu grantiau sylweddol o sawl ffynhonnell yn ogystal â rhoddion hael gan gefnogwyr y mudiad. Diolchaf i bawb am eu parodrwydd i fuddsoddi a chefnogi ein gweithgareddau fel hyn, ac yn arbennig i’r staff am eu hymrwymiad a’u proffesiynoldeb.

 revenue-expenditure-welsh.png

Fe fu’n flwyddyn arall o fuddsoddi’n helaeth o ran gwariant cyfalaf  hefyd, gan gynnwys gwaith uwchraddio Plas Glan-llyn, datblygu Llwybr Tegid sydd yn rhedeg o’r Gwersyll i Lanuwchllyn, gosod paneli solar yn Llangrannog yn ogystal ag adnewyddu offer y Gwersylloedd. Mae gwariant o’r fath yn rhan o gynllun strategol er mwyn darparu adnoddau o safon i’n defnyddwyr. Eisoes mae sawl un wedi canmol y gwelliannau a hyderwn fod hyn efallai yn adlewyrchiad o’r defnydd uwch na’r arferol o’r gwersylloedd yn ystod 2013-14.

 investment-increase-welsh.png

Da yw gallu adrodd fod gwerth ein buddsoddiadau wedi cynyddu tua £0.16m yn ystod y flwyddyn a bod dros £45k wedi’i dderbyn fel incwm o’r buddsoddiadau yma. Ein bwriad fel mudiad yw ceisio cadw arian wrth gefn i gefnogi gweithgareddau yn y dyfodol pe byddai argyfwng o ryw fath. Er nad ydym wedi cyrraedd ein targed hyd yma mae cynnydd eleni yn gadarnhaol ac oherwydd bod rheolaeth ariannol y mudiad yn effeithiol hyderwn y gallwn gynyddu ein cronfeydd yn y dyfodol.

 

Fel Trysorydd y mudiad hoffwn ddiolch am gefnogaeth barod fy nghyd-ymddiriedolwyr ac yn arbennig aelodau Bwrdd Busnes yr Urdd. Mae trafodaethau ynglŷn â gwariant wedi bod yn ddyrys eto eleni ond mae ymroddiad pawb i fuddsoddi amser ac egni yn adlewyrchu hyder yn yr hyn mae’r mudiad yn ceisio ei gyflawni dros blant a phobl ifanc Cymru.


Ffynonellau Incwm Allanol

Rydym yn ymdrechu i sicrhau cefnogaeth ariannol i waith yr Urdd o bob math o ffynonellau. Heb y gefnogaeth hon ni fyddai modd i ni gynnig yr amrediad o brofiadau sy'n cael eu disgrifio yn yr adroddiad hwn.

Cynigwyd y prif grantiau canlynol

£

Llywodraeth Cymru - Hyrwyddo'r Gymraeg

702,184

Llywodraeth Cymru - Prosiect ‘Gweithio'n Gymraeg'

225,000

Llywodraeth Cymru - Prosiect Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion

64,575

ESF Cronfa Cydgyfeiriant

25,585

Llywodraeth Cymru - Cefnogi datblygu app' (Grant Technoleg)

33,100

Cynllun Mudiadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol

99,619

Chwaraeon Cymru - cynnal gweithgareddau chwaraeon

250,000

Llywodraeth Cymru - cefnogi Gemau Cymru

85,000

Sportlot (Chwaraeon Cymru)

33,100

Menter Caerdydd

33,500

Bwrdd Tenis Cymru

6,000

Co-Operative

6,000

Cyngor Llyfrau

26,000

Grantiau Adeiladau ac Offer

 

Cyngor Ceredigion( RDP)

165,160

Cyngor Ceredigion

129,642

Cyngor Gwynedd

-Canolfan Ragoriaeth Eryri

76,322

 

Grantiau i'r Eisteddfod a'r Celfyddydau

£

Llywodraeth Cymru

150,000

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

147,900

Cyngor Celfyddydau Cymru

Theatr Ieuenctid yr Urdd

60,000

BBC Cronfa Perfformio

5,000

Ashley Foundation - Theatr leuenctid yr Urdd

7,000

 

Awdurdodau Lleol

£

Powys

12,338

Ceredigion

32,500

Mon

20,380

Gwynedd

34,210

Conwy

17,050

Dinbych

22,000

Wrecsam

13,000

Penfro Cyngor Sir

24,822

Caerffili

12,000

Bro Morgannwg

16,803

Cyngor Dinas Casnewwydd

26,500

Cyngor Penybont

10,000

 

Prif Gymynroddion

£

Ann Boobyer, Pen y Bont ar Ogwr – (balans)

31,114

Ceinwen Bowyer, Hen Golwyn( rhan)

90,735

Tecwyn Ellis

1,000

Rhodd er cof Gwladys & Angharad Roberts

1,000


Partneriaid

Rydym yn chwilio yn barhaus am noddwyr newydd sy’n gallu ein cefnogi drwy gymorth ymarferol neu ariannol.  Mae’r buddiannau y gall yr Urdd eu cynnig yn cynnwys sylw yn ein digwyddiadau a brandio ar ddeunyddiau amrywiol.

 

Diolchwn i’r sefydliadau canlynol a gefnogodd waith yr Urdd yn ystod y flwyddyn:


Gwybodaeth Ariannol

Datganiad yr Archwilydd ar y Crynodeb Ariannol

Datganiad yr Archwilwyr i Ymddiriedolwyr Urdd Gobaith Cymru

Yr ydym wedi arholi’r crynodeb ariannol ar y dudalen yma.

 

Cyfrifoldebau priodol ymddiriedolwyr ac archwilwyr 

Yr ydych chi fel ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi’r crynodeb ariannol. Yr ydym wedi cytuno i adrodd i chi ein barn ar gysondeb y crynodeb ariannol gyda’r  cyfrifon statudol llawn, a arwyddwyd ar  10fed Hydref 2014.

 

Sail ein barn

Yr ydym wedi gwneud y gwaith hynny yr ydym yn ei ystyried yn addas i sefydlu a ydy’r crynodeb ariannol yn gyson gyda’r datganiadau ariannol pan baratowyd rhain oddi wrthynt. 

 

Ein barn

Yn ein barn mae’r crynodeb ariannol yn gyson gyda’r datganiadau ariannol llawn am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2014. 

PJE, Archwilwyr Cofrestredig, Llanbedr Pont Steffan

 

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr

Mae’r cyfrifon uchod yn grynodeb o wybodaeth a dynnwyd oddi wrth y datganiadau ariannol llawn.  

Cymeradwywyd y datganiadau ariannol llawn gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar 1af o Hydref 2014 ac maint wedi’u hanfon i’r Tŷ Cwmnïau ac i’r Comisiwn Elusennau.  Archwiliwyd y cyfrifon gan PJE Cyfrifwyr Siartredig a rhoddwyd adroddiad diamod arnynt. 

Mae’n bosib nad yw’r crynodeb ariannol yn rhoi gwybodaeth ddigonol i roi dealltwriaeth lawn ar faterion ariannol yr elusen.  Felly, am wybodaeth bellach, dylid ymgynghori â’r cyfrifon statudol llawn; Adroddiad yr Archwilwyr ar y cyfrifon hynny, ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.  Ceir copïau o’r rhain oddi wrth y cwmni. 

boardOfDirectorsSignature.png

Llofnodwyd ar ran Bwrdd y Cyfarwyddwyr

Cwmni Urdd Gobaith Cymru Cyfyngedig

Mantolen 31 Mawrth 2014

 2014
£
2013
£
ASEDION SEFYDLOG
Eiddo Sylweddol

10,493,617

9,249,017

Eiddo a ddelir i'w gwerthu

75,000

75,000

Buddsoddion 2,590,958 1,910,753
  13,159,575 11,234,770
     
ASEDION CYFREDOL    
Stoc

34,573

46,488

Dyledwyr

564,401

1,017,535

Arian yn y banc ac mewn llaw 1,739,052 2,102,977
  2,338,026 3,167,000
     
CREDYDWYR    
Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn (1,430,102) (1,340,056)
Rhwymedigaethau cyfredol net 907,924 1,826,944
Asedion llai rhwymedigaethau cyfredol

14,067,499

13,061,714
Symiau sy’n ddyledus ar ôl blwyddyn (493,690) (596,079)
  13,573,809 12,465,635
     
CRONFEYDD    
Cronfeydd cyfyng

3,263,697

3,171,058

Cyfrif incwm a thraul 

8,865,524

8,030,034

Cronfa ail-brisio buddsoddion 1,220,512 1,060,207
Cronfeydd gwaddol 224,076 204,336
     
CRONFEYDD 13,573,809 12,465,635



income-chart-welsh.png



Incwm 
 Cyfeirnod Siart £
1. Llangrannog a Phentre Ifan

2,380,282

2. Glan-llyn 1,470,620
3. Caerdydd

794,752

4. Incwm o fuddsoddion

45,675

5. Eisteddfod 2013 (gan gynnwys grantiau)

1,791,616

6. Cylchgronau

72,510

7. Aelodaeth

335,834

8. Rhoddion a chymynroddion

232,155

9. Amrywiol

169,327

10. Grantiau

1,926,394

11. Grantiau tuag at wariant cyfalaf

371,807

12. Chwaraeon

173,407

     
  Cyfanswm Incwm am 2013/2014:

9,764,379



expenditure-chart-welsh.png



Gwariant 
 Cyfeirnod Siart £
1. Llangrannog a Phentre Ifan

2,105,757

2. Glanllyn

1,395,112

3. Caerdydd

724,316

4. Costau elusennol

1,561,680

5. Eisteddfod

1,995,239

6. Cylchgronau

118,461

7. Costau trefn lywodraethol

100,563

8. Costau codi arian a chyhoeddusrwydd

35,346

9. Dibrisiant

66,647

10. Chwaraeon

792,403

     
  Cyfanswm Gwariant am 2013/2014: 8,895,524 

Dosrannwyd costau cefnogi dros y gweithgareddau elusennol ar sail y ganran incwm a dderbyniwyd.

Canlyniad y flwyddyn Cwmni Urdd Gobaith Cymru 

  2014
£
2013
£

Mewn lif net o adnoddau am y flwyddyn

868,855

1,704,058

Gweddill ar werthu asedau ac buddsoddion

79,014

(232)

 

947,869

1,703,826

Cynnydd/(Lleihad) ar ail-brisio buddsoddion – heb eu realeiddio

160,305

303,140

Cynnydd/(Lleihad) net mewn cronfeydd

1,108,174

2,006,966

Cronfeydd ar 1 Ebrill 2013

12,465,635

10,458,669

Cronfeydd ar 31 Mawrth 2014 13,573,809 12,465,635

Mae’r cyfanswm incwm yn cynnwys £7,750,463 o gronfeydd rhydd, £2,004,773 o gronfeydd clwm a £9,143 o gronfeydd gwaddol. Mae’r cynnydd net am y flwyddyn ar ôl trosglwyddiadau rhwng cronfeydd o £270,672 yn cynnwys gweddill o £505,544 ar gronfeydd rhydd a gweddill o £362,291 o gronfeydd cyfyng.

 

Mai Parry Roberts

Cyfarwyddwr Busnes a Phersonél a Dirprwy Brif Weithredwr


01678 541 010

mai@urdd.org